Johann Arndt

Diwinydd Lutheraidd o Almaenwr oedd Johann Arndt (27 Rhagfyr 155511 Mai 1621) sy'n nodedig am ei ysgrifeniadau cyfriniol.

Ganwyd yn Edderitz, ger Ballenstedt, yn Nhywysogaeth Anhalt-Köthen. Astudiodd ym mhrifysgolion Helmstadt, Wittenberg, Strasbwrg, a Basel. Fe'i penodwyd yn weinidog yn Badeborn yn 1583, ond cafodd ei ddiswyddo yn 1590 am iddo wrthod tynnu'r lluniau o'i eglwys ac anwybyddu'r gorchymyn i roi'r gorau i allfwrw yn rhan o'r bedydd, arferion a oedd yn groes i ddysgeidiaeth lem y Calfiniaid. Aeth Arndt i Quedlinburg, ac yn 1599 cafodd ei ddanfon i Eglwys Sant Marthin yn Brunswick.

Roedd Arndt yn llenor toreithiog, a gwelir ysbrydoliaeth y cyfrinwyr Sant Bernard o Clairvaux, Johannes Tauler, a Thomas à Kempis yn ei ysgrifeniadau. Ei brif waith yw ''Vier Bücher vom wahren Christentum'' (1605–09), a gafodd ei gyfieithu i sawl iaith a'i ddosbarthu ar draws Ewrop yn ystod oes yr awdur. Er iddo gael ei fabwysiadu yn sail i sawl llyfr defosiynol Catholig a Phrotestannaidd, cafodd nifer o Lutheriaid eu digio gan gynnwys y ''Vier Bücher''. Dylanwadwyd ar Philipp Jakob Spener, sefydlwr Pietistiaeth, yn gryf gan waith Arndt.

Symudodd Arndt i Eiseleben yn 1609, ac i Celle yn 1611. Bu farw yn Celle yn 65 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8 ar gyfer chwilio 'Arndt, Johann', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Hahn, István
    Cyhoeddwyd 1989
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: D 012
    Llyfr
  2. 2
    gan Lanyi, György
    Cyhoeddwyd 1983
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: N 715
    Llyfr
  3. 3
    gan Tüskés, Tibor
    Cyhoeddwyd 1989
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: L 328.1
    Llyfr
  4. 4
    gan Farkas, Henrik
    Cyhoeddwyd 1984
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: N 715
    Llyfr
  5. 5
    Cyhoeddwyd 1979
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: U 425
    Llyfr
  6. 6
    gan Kovacs, Mihaly
    Cyhoeddwyd 1971
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: M 021
    Llyfr
  7. 7
    Cyhoeddwyd 1981
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  8. 8
    Cyhoeddwyd 1989
    Awduron Eraill: “...Arndt, Johann...”
    Rhif Galw: L 328.1
    Llyfr