Walter Benjamin
Athronydd a beirniad diwylliannol o'r Almaen o dras Iddewig oedd Walter Benedix Schönflies Benjamin (Berlín, 15 Gorffennaf 1892 – Portbou, Catalunya 26 Medi 1940), sy'n gysylltiedig â’r grŵp athronyddol Ysgol Frankfurt..Dylanwadwyd Benjamin gan syniadaeth Theodor Adorno, Marcsiaeth Bertolt Brecht a chred Iddewig Gershom Scholem.
Cyfrannodd Benjamin yn helaeth i ddatblygiad a syniadaeth damcaniaeth beirniadol a diwylliannol gyda gwaith fel ''Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit'' ("Gwaith Celf yn Oes Atgynhyrchu Mecanyddol", 1935), ei waith enwocaf. Mae Benjamin yn ystyired sut mae ffydd o gynhyrchu, fel ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio’r celfyddydau.
Roedd gan Benjamin ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a llenyddiaeth ei oes. Dadansoddodd waith Franz Kafka, Brecht a Friedrich Hölderlin gan geisio gwahanu'r gwaith o’u cyd-destun penodol.
Bu farw yn 48 oed wrth geisio dianc rhag y Natsïwyr yn Portbou, Catalunya wrth ffin Ffrainc a Sbaen. Mewn cyflwr iechyd gwael ac wrth anobeithio am broblemau ei daith i geisio cyrraedd yr Unol Daleithiau, lladdodd Benjamin ei hun trwy gymryd gorddos o forffin. Yn 2001 ymddangosodd erthygl a oedd yn honni iddo gael ei ladd gan asiantau Stalin. Ond mae arbenigwyr ar fywyd Benjamain yn diystyru hyn. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11gan Benjamin, Walter
Cyhoeddwyd 1989Rhif Galw: Sammlung Dietmar Kummer (Leipzig: Bibliotheksprofessor)Cyfresol -
12gan Jouhandeau, MarcelAwduron Eraill: “...Benjamin, Walter...”
Cyhoeddwyd 1978
Rhif Galw: R 11Llyfr -
13gan Baudelaire, CharlesAwduron Eraill: “...Benjamin, Walter...”
Cyhoeddwyd 1988
Rhif Galw: R 20Llyfr