Cicero

350px Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Tullius Cicero (3 Ionawr 106 CC7 Rhagfyr 43 CC).

Ganed Cicero yn Arpinum (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o Rufain. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, Gaius Marius,ond heb gysylltiad a'r teuluoedd seneddol. Bu'n astudio'r gyfraith dan Quintus Mucius Scaevola, a dywed Plutarch ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn Sextus Roscius ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd Chrysogonus, ffefryn Lucius Cornelius Sulla oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.

Yn 79 CC, aeth Cicero i Wlad Groeg, Asia Leiaf a Rhodos, a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan Molon o Rhodos. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn quaestor yn 75 CC, gan wasanaethu yn Sicilia. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn Gaius Verres, llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn 70 CC yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain.

Etholwyd ef yn gonswl yn 63 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl, llwyddodd i ddatgelu cynllwyn gan gefnogwyr Lucius Sergius Catilina yn erbyn y wladwriaeth. Ffôdd Catilina pan draddododd Cicero araith yn ei erbyn yn y Senedd, a dienyddiwyd nifer o'i ganlynwyr.

250px|chwith|bawd|Cicero yn ymosod ar Catilina yn Senedd Rhufain (ffresgo, 19g)

Yn 61 CC gwahoddodd Iŵl Cesar ef i fod yn bedwerydd yn ei bartneriaeth gyda Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus, ond gwrthododd Cicero. Yn 58 CC cyhoeddodd Publius Clodius Pulcher, tribwn y bobl, ddeddf yn alltudio unrhyw un oedd wedi dienyddio dinasyddion Rhufeinig heb eu rhoi ar brawf. Roedd Cicero wedi gwneud hyn adeg cynllwyn Catilina, a bu raid iddo adael am Wlad Groeg. Dychwelodd i Rufain yn 57 CC.

Amddiffynnodd Cicero Milo ar gyhuddiad o lofruddio, ac ystyrir ei araith ''Pro Milone'' yn un o'i gampweithiau. Er hynny, alltudiwyd Milo. Erbyn 50 CC roedd y berthynas rhwng Cesar a Pompeius wedi dirywio, a rhoddodd Cicero ei gefnogaeth i Pompeius. Yn y cyfnod wedi llofruddiaeth Cesar yn 44 CC, cyhoeddodd gyfres o ymosodiadau ar Marcus Antonius, y Philippicau.

Pan ddaeth Antonius ac Octavianus i gytundeb i rannu grym, cyhoddwyd enw Cicero ar restr o elynion. Daliwyd ef wrth iddo adael ei fila yn Formiae ar ei ffordd tua'r porthladd i geisio dianc, a lladdwyd ef. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 12 canlyniadau o 12 ar gyfer chwilio 'Cicero', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Cicero, Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  2. 2
    gan Cicero, Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  3. 3
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  4. 4
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  5. 5
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  6. 6
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  7. 7
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  8. 8
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  9. 9
    gan Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  10. 10
    gan Cicero, Marcus Tullius, Cicero
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  11. 11
    gan Sallust, Cicero
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  12. 12
    gan Sallust, Cicero
    Cyhoeddwyd 1950
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr