Maryse Condé
Nofelydd a dramodydd o Guadeloupe yn yr iaith Ffrangeg oedd Maryse Condé (11 Chwefror 1934 – 2 Ebrill 2024) sydd yn nodedig am ei ffuglen hanesyddol epig, gydag Affrica yn gefndir i nifer o'i straeon.Ganed hi yn Pointe-à-Pitre, Guadeloupe, yn y Caribî, pan oedd yr ynys yn un o drefedigaethau Ymerodraeth Ffrainc ond nid eto yn rhan hanfodol o Ffrainc. Symudodd i ''la Métropole'' yn ei harddegau i astudio. Aeth i Orllewin Affrica yn ystod ei hugeiniau a gweithiodd yn athrawes yng Ngini, Ghana, a Senegal o 1960 i 1968.
Mae ei ddwy nofel gyntaf, ''Hérémakhonon'' (1976) ac ''Une Saison à Rihata'' (1981), yn seiliedig ar ei phrofiadau yn Ghana a'i hymdrechion i uniaethu ag Affrica. Ni chafodd fawr o lwyddiant gyda'r rheiny, ond daeth i'r amlwg gyda'i champwaith ''Ségou'' (1984) a'r dilyniant ''Ségou II'' (1985), a osodir yn Ymerodraeth Ségou yn y cyfnod 1797–1860 o hanes Mali.
Mae'r nofel ''Moi, Tituba, sorcière—: noire de Salem'' (1986) yn ymwneud â chaethwas a gafodd ei chyhuddo o fod yn wrach yn nhreialon Salem, Massachusetts, yn yr 17g. Dychwelodd Condé i Guadeloupe ym 1986, a gosodir ei nofel ''La Vie scélérate'' (1987) yno. Mae ei nofelau diweddarach yn cynnwys ''La Colonie du nouveau monde'' (1993), ''La Migration des coeurs'' (1995; addasiad Caribïaidd o ''Wuthering Heights'' gan Emily Brontë), ''Desirada'' (1997), ''Historie de la femme cannibale'' (2003), a ''Victoire, les saveurs et les mots'' (2006).
Yn ogystal â'i nofelau, ysgrifennodd Condé wyth o ddramâu, llyfrau i blant, dau hunangofiant, ac ysgrifau ar bynciau llenyddol a gwleidyddol. Yn 2018, wedi i Wobr Lenyddol Nobel gael ei gohirio oherwydd sgandal, dyfarnwyd Condé yn enillydd Gwobr Lenyddol Newydd yr Academi, a sefydlwyd dros dros fel gwobr amgen. Yn ei henaint, ymsefydlodd Maryse Condé ym Mhrofens, a bu farw yng nghymuned Apt, yn Vaucluse, yn 90 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2