Dandin
Llenor a gramadegydd barddoniaeth yn yr iaith Sansgrit o India oedd Dandin (fl. tua 700). Credir ei fod yn frodor o Dde India ond ar wahân i hynny ni wyddys dim amdano.Mae'n awdur dau waith pwysig yn hanes llenyddiaeth Sansgrit. Un o'r rhain yw'r ''Kavyadarsha'' ('Y Drych Barddonol', cyfansoddair o'r geiriau Sansgrit ''kavya'' 'barddoniaeth' ac ''adarsha'' 'drych'), sy'n gyfraniad pwysig i ddamcaniaethau barddol Sansgrit, tebyg i ramadegau'r beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol.
Mae ei ail lyfr yn ''gadya'' (rhamant) dan y teitl ''Dasa-kumara-charita'' ('Anturiaethau'r Deg Tywysog'). Ystyrir hyn yn gampwaith am ei ddefnydd o'r iaith Sansgrit i greu rhyddiaith goeth, osgeiddig. Ond bernir y llyfr gan rai am ei gynnwys. Mae'n fath o nofel hir estynedig gyda nifer o is-benodau sy'n cynnwys nifer o chwedlau llên gwerin a straeon am hud a lledrith ac anturiaethau rhyfeddol. Mae'n dilyn anturiaethau deg tywysog Indiaidd ac mae'n ddrych i gymdeithas y llys yn yr hen India. Ceir nifer o ddarluniau o anturiaethau carwriaethol sy'n gadael dim byd i'r dychymyg gyda disgrifiadau manwl o garu yn ei holl amrywiaeth. I gyfleu hyn mae'r awdur yn defnyddio llu o fwyseiriau rhywiol ac iaith liwgar ac awgrymiadol. Nid yw hynny'n beth mor anghyffredin â hynny yn llenyddiaeth India, ond yr hyn sydd wedi ennyn beirniadaeth yw'r diffyg llwyr o unrhyw synnwyr moesol yn y gwaith. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7