Alfred Dreyfus

Swyddog milwrol Ffrengig o dras Iddewig a gyhuddwyd ar gam o fod yn ysbïwr i'r Almaen oedd Alfred Dreyfus (9 Hydref 185912 Gorffennaf 1935).

Ganed Drefus yn Mulhouse yn Alsace. Ar 5 Ionawr 1895, cafwyd ef yn euog o drosglwyddo dogfennau cyfrinachol i'r Almaen, ac wedi ei ddiswyddo fel swyddog, condemniwyd ef i garchar am oes ar Ynys y Diafol.

Dechreuodd ymgyrch i'w ryddhau, gan fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn wan a bod gwrth-semitiaeth yn elfen yn yr achos. Yn 1898, cyhoeddodd Émile Zola ei bamffled enwog ''J'accuse...!'' am achos Dreyfus. Yn y pamffled yma, rhoddodd enw'r gwir ysbïwr, yr Hwngariad Ferdinand Walsin-Esterhazy. Rhyddhawyd Dreyfus o garchar ar 19 Medi 1899, ond dim ond ar 12 Gorffennaf 1906 y dyfarnwyd ef yn ddieuog yn derfynol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Dreyfus, Alfred', amser ymholiad: 0.00e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Dreyfus, Alfred
    Cyhoeddwyd 1962
    Rhif Galw: R 16
    Llyfr
  2. 2
    gan Dreyfus, Alfred
    Cyhoeddwyd 1962
    Rhif Galw: R 16
    Llyfr