Vera Figner
| dateformat = dmy}}Chwyldroadwr a therfysgwr (yn ôl rhai) o Rwsia oedd Vera Figner (Rwsieg: Ве́ра Никола́евна Фи́гнер Фили́ппова; 25 Mehefin 1852 - 15 Mehefin 1942) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd gwleidyddol, bywgraffydd, cofiannydd, a gwleidydd.
Fe'i ganed yn Llywodraethiaeth Kazan, Ymerodraeth Rwsia a bu farw yn Moscfa o niwmonia; fe'i claddwyd ym Mynwent Novodevichy. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Zurich a Sefydliad Kazan Rodionovsky. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o 'Narodnaya Volya' a Phlaid y Chwyldro Sosialaidd. Hanai ei theulu o'r Almaen ac o Rwsia.
Yn arweinydd y grŵp cudd, chwyldroadol, ''Narodnaya Volya'' (Ewyllys y Bobl), a oedd o blaid defnyddio terfysgaeth i ddymchwel y llywodraeth, cyd-gynllwyniodd lofruddiaeth lwyddiannus Alexander II ym 1881. Arestiwyd Figner a threuliodd 20 mis tan glo, ar ei phen ei hun cyn y cafodd ei rhoi ar brawf, lle dedfrydwyd hi i farwolaeth. Cymudwyd y ddedfryd wedi hynny a charcharwyd Figner yng nghaer Shlisselburg am 20 mlynedd cyn cael ei hanfon i alltudiaeth.
Daeth Figner yn hynod o boblogaidd yn rhyngwladol, yn bennaf oherwydd ei chofiant, lle rhannodd ei phrofiadau a gyfieithwyd yn eang. Cafodd ei thrin fel eicon arwrol o aberth chwyldroadol ar ôl ''Fevrálʹskaya revolyútsiya'' (Chwyldro Chwefror) ym 1917 ac roedd yn siaradwr cyhoeddus poblogaidd yn ystod y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach daeth Figner yn amlwg yng 'Nghymdeithas y Cyn-Garcharorion Gwleidyddol ac Alltud yn yr Undeb Sofietaidd' nes iddo gael ei ddiddymu ym 1935.
Llwyddodd Figner i oroesi 'Terfysgaeth Fawr' 1937 a bu farw o achosion naturiol ym Moscfa ym 1942 yn 89 oed. bawd|chwith|Vigner yn 1930 Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2