Ricardo Güiraldes

Nofelydd a bardd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Ricardo Güiraldes (13 Chwefror 18868 Hydref 1927). Ei gampwaith ydy'r nofel ''Don Segundo Sombra'' (1926), enghraifft o lenyddiaeth y ''gaucho'' ac un o glasuron llên yr Ariannin.

Ganwyd yn Buenos Aires i deulu cefnog, a chafodd ei fagu ar ystâd y teulu yn Nhalaith Buenos Aires. Treuliodd dair mlynedd gyntaf ei oes ym Mharis, a dysgodd Ffrangeg cyn iddo ddysgu Sbaeneg.

Dychwelodd i Baris yn 1910, ac yno daeth yn gyfeillgar â llenorion Ffrengig yr ''avant-garde'' a'r beirdd Dirywiaethol. Defnyddiodd arddulliau arbrofol yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''El cencerro de cristal'' (1915). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Raucho'', yn 1917.

Aeth i Baris ym Mawrth 1927 i chwilio am driniaeth i'w afiechyd. Bu farw yno ar 8 Hydref yn 41 oed o glefyd Hodgkin. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 8 canlyniadau o 8 ar gyfer chwilio 'Güiraldes, Ricardo', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1979
    Llyfr
  2. 2
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  3. 3
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  4. 4
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1973
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  5. 5
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  6. 6
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  7. 7
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  8. 8
    gan Güiraldes, Ricardo
    Cyhoeddwyd 1966
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr