Natalia Ginzburg
| dateformat = dmy}}Awdures o'r Eidal oedd Natalia Ginzburg (14 Gorffennaf 1916 - 7 Hydref 1991) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, dramodydd a gwleidydd. Themâu pwysicaf ei gwaith yw'r berthynas rhwng aelodau o deulu, gwleidyddiaeth yn ystod ac ar ôl y Blynyddoedd Ffasgaidd a'r Ail Ryfel Byd ac athroniaeth. Yn 1983 cafodd ei hethol i Senedd yr Eidal, gan gynrychioli Rhufain fel Aelod Annibynnol, ond bu am gyfnod yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Eidal.
Cyfieithwyd y rhan fwyaf o'i gwaith i'r Saesneg a'u cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.
Ganed Natalia Leviyn yn Palermo, Sisili ar 14 Gorffennaf 1916; bu farw yn Rhufain ac fe'i claddwyd ym mynwent Campo Verano, Rhufain. O 1919 ymlaen, treuliodd Ginzburg llawer o'i llencyndod gyda'i theulu yn Turin gan i'w thad gael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Turin. Mae ei thad, Giuseppe Levi, yn hanesydd Eidalaidd adnabyddus, a aned i deulu Eidalaidd-Iddewig, a'i mam, Lidia Tanzi, yn Gatholig.
Bu Natalia Ginzburg yn briod i Leone Ginzburg ac yna i Gabriele Baldini ac roedd Carlo Ginzburg yn blentyn iddi. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17