Jan Kochanowski

Bardd a dyneiddiwr Pwylaidd yn yr ieithoedd Pwyleg a Lladin oedd Jan Kochanowski (153022 Awst 1584) a flodeuai yn ystod cyfnod y Dadeni yng Ngwlad Pwyl.

Ganed ef yn Sycyna, Teyrnas Pwyl, i deulu o'r bonedd gwledig. Aeth i Academi Kraków cyn teithio i'r Eidal i astudio ym Mhrifysgol Padova o 1552 i 1559. Wedi iddo ddychwelyd i'w famwlad, gwasanaethodd yn ysgrifennydd i'r llys brenhinol yn Kraków.

Cyfansoddai Kochanowski ei gerddi cynnar yn Lladin, y rhan fwyaf ohonynt yn alargerddi. Trodd yn fuan at iaith y werin, a chan nad oedd y Bwyleg eto wedi aeddfedu'n iaith ysgrifenedig, Kochanowski oedd prif arloeswr y safon lenyddol newydd. Dyfeisiodd gystrawen farddonol a phatrymau mydryddol ei hunan, gan greu model a efelychir gan lenorion Pwyleg am gannoedd o flynyddoedd. Ysgrifennodd mewn sawl ffurf, gan gynnwys emynau, telynegion, epigramau, dychangerddi, a throsiadau Beiblaidd. Ei gampwaith ydy ''Treny'' (1580), cylch o 19 o alarnadau a ysbrydolwyd gan farwolaeth ei ferch, Urszula.

Kochanowski hefyd oedd awdur ''Odprawa posłów greckich'' (1578), y drasiedi Bwyleg gyntaf yn oes y Dadeni, a ysgrifennwyd ar fesur diodl ac ar sail stori'r ''Iliad''. Perfformiwyd y ddrama yn y llys brenhinol yn Ujazdów, ger Warsaw, ym 1578, a chafodd ei hystyried yn alegori wleidyddol o'r sefyllfa gyfoes rhwng Gwlad Pwyl a Rwsia.

Priododd oddeutu 1575, a threuliodd diwedd ei oes ar ystad ei deulu yn Czarnolas, yng nghanolbarth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Lublin, oddeutu 54 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Kochanowski, Jan', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Kochanowski, Jan
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  2. 2
    gan Kochanowski, Jan
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr
  3. 3
    gan Kochanowski, Jan
    Cyhoeddwyd 1980
    Rhif Galw: R 02
    Llyfr