Adam Mickiewicz
bawd|320px|Portread Adam Mickiewicz gan Walenty Wańkowicz, 1828-1829. Llenor Pwylaidd oedd Adam Bernard Mickiewicz (24 Rhagfyr 1798 yn Zaosie ger Nowogródek, Ymerodraeth Rwsia – 26 Tachwedd 1855 yng Nghaergystennin, Ymerodraeth yr Otomaniaid). Roedd yn fardd, dramodydd, traethodydd, cyfieithydd, cyhoeddwr, ac awdur gwleidyddol, ac ystyrir yn fardd cenedlaethol Gwlad Pwyl.Adnabyddir ef fel un o Dri Bardd mwyaf yng nghyfnod Rhamantaidd Gwlad Pwyl (ynghyd â Juliusz Słowacki a Zygmunt Krasiński) ac fel un o lenorion gorau Gwlad Pwyl yn gyffredinol a hyd yn oed yn Ewrop gyfan. Yn ôl nifer, Mickiewicz yw'r bardd gorau yn holl lenyddiaeth Bwyleg. Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus y mae baledi, nofelau barddonol, y ddrama fydryddol ''Dziady'' a'r arwrgerdd genedlaethol ''Pan Tadeusz'' a ystyrir fel arwrgerdd olaf diwylliant bonedd Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania.
Mae'n debyg y bu farw o golera. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14