John Osborne
Dramodydd, sgriptiwr ac actor Seisnig oedd John James Osborne (12 Rhagfyr 1929 – 24 Rhagfyr 1994). Ystyrir ef fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol ym myd y theatr ôl-ryfel. Yn enedigol o Lundain, bu gweithio am gyfnod fel newyddiadurwr cyn dechrau fel rheolwr llwyfan ac actor yn y theatr. Bu’n byw mewn tlodi am nifer o flynyddoedd cyn i’w drydedd ddrama gael ei llwyfannu sef ''Look Back in Anger'' (1956), a ddaeth ag enwogrwydd cenedlaethol iddo.Yn seiliedig ar berthynas gyfnewidiol Osborne â'i wraig gyntaf, Pamela Lane, fe ystyrir ''Look Back in Anger'' fel y ddrama "kitchen sink realism" cyntaf. Tyfodd mudiad a wnaeth ddefnydd o "realaeth sinc y gegin", gan ei gyplysu â realaeth gymdeithasol er mwyn trafod dadrithiad y gymdeithas Brydeinig, ym mlynyddoedd olaf yr Ymerodraeth. Daeth yr ymadrodd “dynion ifanc dig” ["angry young man / men"] a fathwyd gan George Fearon i ddisgrifio Osborne wrth hyrwyddo’r ddrama, i ymgorffori’r awduron dosbarth gweithiol, asgell chwith yn bennaf o fewn y mudiad hwn. Ystyriwyd Osborne fel y ffigwr blaenllaw oherwydd ei wleidyddiaeth asgell chwith, ddadleuol, er i feirniaid nodi trywydd ceidwadol yn ei ysgrifennu cynnar.
Cafodd ''The Entertainer'' (1957), ''Luther'' (1961), ac ''Inadmissable Evidence'' (1964) dderbyniad da hefyd, gyda ''Luther'' yn ennill Gwobr Tony 1964 am y Ddrama Orau, er bod y derbyniad i'w ddramâu diweddarach yn llai ffafriol. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Osborne ysgrifennu ac actio ar gyfer y teledu ac ymddangos mewn ffilmiau. Mae'n fwyaf cofiadwy fel y pennaeth troseddol Cyril Kinnear yn ''Get Carter'' (1971).
Ym 1958, ymunodd Osborne â chyfarwyddwr ''Look Back in Anger,'' Tony Richardson a’r cynhyrchydd ffilm Harry Saltzman i ffurfio Woodfall Film Productions, er mwyn cynhyrchu addasiad ffilm Richardson o ''Look Back in Anger'' ym 1959 a gweithiau eraill o realaeth sinc y gegin, gan arwain y Don Brydeinig Newydd [British New Wave]. Gwelwyd addasiadau gan Osborne ei hun o ''The'' ''Entertainer'' (1960) (a gyd-ysgrifennwyd gyda Nigel Kneale ), ac ''Inadmissible Evidence'' (1968), yn ogystal â’r gomedi gyfnod ''Tom Jones'' (1963), a enillodd Wobr yr Academi am yr Addasiad Sgript Orau a Gwobr BAFTA am y Sgript Orau ym Mhrydain.
Bu Osborne yn briod bum gwaith, ond cafodd y pedwar cyntaf eu poenydio gan gyhuddiadau o gamdriniaeth. Ym 1978 priododd Helen Dawson, ac o 1986 buont yn byw yng nghefn gwlad Swydd Amwythig. Ysgrifennodd ddwy gyfrol hunangofiannol, ''A Better Class of Person'' (1981) ac ''Almost a Gentleman'' (1991), a chyhoeddwyd gasgliad o'i waith ffeithiol, ''Damn You, England'', ym 1994. Bu farw o gymhlethdodau diabetes ar 24 Rhagfyr 1994 yn 65 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4