Petronius
Seneddwr Rhufeinig oedd Titus Petronius Arbiter (tua 27 OC – 66 OC), a adnabyddir hefyd dan yr enwau Gaius Petronius, Gaius Petronius Arbiter a Publius Petronius Niger, ond gan amlaf yn syml fel Petronius. Ef oedd awdur y nofel ddychanol ''Satyricon''. Nid etifeddodd y ''cognomen'' (enw teuluol) "Arbiter"; yn lle hynny enillodd yr enw hwnnw fel ''elegantiae arbiter'' (hynny yw, "beirniad chwaeth") yn llys yr ymerawdwr Nero.Ychydig a wyddys am ei fywyd y tu hwnt i'r hyn a adroddir gan Tacitus yn ei ''Annales'' XVI:18-19, er enghraifft:
Byddai'n treulio'r dydd mewn cwsg, y nos yn nyletswyddau a phleserau bywyd. Ac fel yr oedd diwydiant wedi dod ag enwogrwydd i eraill, felly yr oedd ei ddiogi wedi dod ag enwogrwydd iddo, ac nid oedd yn cael ei ystyried yn glwth ac yn warth, fel y rhan fwyaf o'r rhai sy'n ymbleseru, ond yn hytrach yn ddyn o foethusrwydd dysgedig. A pho fwyaf hamddenol a hunan-foddhaol oedd ei eiriau a'i weithredoedd, mwyaf ffafriol a gawsant fel ymddangosiad o symlrwydd.
Mae Tacitus hefyd yn adrodd hanes ei farwolaeth. Ac yntau wedi’i gyhuddo o frad yn erbyn Nero, mae Petronius yn galw ei ffrindiau at ei gilydd i giniawa ac i drafod barddoniaeth a materion cain cyn iddo ladd ei hun trwy hollti ei arddyrnau. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20