Gianni Rodari

Awdur a newyddiadurwr o'r Eidal oedd Gianni Rodari (23 Hydref 192014 Ebrill 1980) sydd yn nodedig am ei lyfrau ffantasi i blant, gan gynnwys ''Il romanzo di Cipollino'' (1951).

Ganed yn Omegna yn nhalaith Verbano-Cusio-Ossola, Piemonte, yng ngogledd yr Eidal. Pobydd oedd ei dad. Derbyniodd dystysgrif addysgu ym 1938 yn Varese a gweithiodd hyd 1943 fel athro mewn ysgol gynradd. Yn y cyfnod hwn, arbrofai â thechnegau barddonol gyda'i ddisgyblion. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymaelododd â'r Blaid Ffasgaidd cyn troi at y Comiwnyddion ym 1944. Penodwyd yn olygydd ar gylchgrawn y Blaid Gomiwnyddol, ''Ordine nuovo''. Bu'n ohebydd i'r papur newydd comiwnyddol ''L'Unità'', ac yn ei ysgrifeniadau darparai ddeunydd i blant a oedd yn arbrofi â ffurf ac iaith. Gweithiodd yn gyfarwyddwr i Il Pioniere, sefydliad ar gyfer plant o deuluoedd adain-chwith, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn i blant ''Il Pioniere'' o 1950 i 1953 a'r cylchgrawn i rieni ''Il Giornale dei genitori'' o 1968 i 1977. Ym 1958 dechreuodd olygu'r papur newydd dyddiol ''Paese Sera'', a chyfrannodd nifer fawr o erthyglau ei hun ar bynciau diwylliant, addysg a seicoleg yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau plant i'r cyhoeddiad hwnnw.

Trwy gydol ei yrfa, cyhoeddodd Rodari ryw 25 o lyfrau i blant, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth. Bu nifer o'r rheiny yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd ganddo mewn cylchgronau a phapurau newydd ers tro. Priodolir iddo gyflwyno cerddi dwli i farddoniaeth plant Eidaleg, dan ddylanwad awduron swrealaidd Ffrangeg a thraddodiad llên ddwli Lloegr. Enillodd sawl gwobr lenyddol yn yr Eidal am ei waith, gan gynnwys y Premio Prato ym 1960 am y casgliad o rigymau ''Filastrocche in cielo e in terra'' (1960), y Premio Castello ym 1963 am ''Gip nel televisore'' (1962), y Premio Europa Dralon ym 1967 a'r Premio Castello ym 1968 am ''La torta in cielo'' (1966), a'r Premio Rubino ym 1968 am ''Il libro degli errori'' (1964).

Enillodd Rodari Wobr Hans Christian Andersen am Ysgrifennu ym 1970, y wobr lenyddol uchaf ei bri ar gyfer llenyddiaeth plant. Yn y gyfrol ''Grammatica della fantasia'' (1973), esbonia Rodari ei ddulliau o gyfuno'r dychymyg a digrifwch â'i amcan i addysgu plant. Bu farw yn Rhufain yn 59 oed. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd y gyfrol o'i newyddiaduraeth ''Il cane di Magonza'' (1982). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 48 ar gyfer chwilio 'Rodari, Gianni', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  2. 2
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  3. 3
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  4. 4
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1982
    Rhif Galw: R 11
    Llyfr
  5. 5
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1962
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  6. 6
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1962
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  7. 7
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1979
    Rhif Galw: III J 3
    Llyfr
  8. 8
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1979
    Rhif Galw: III J 3
    Llyfr
  9. 9
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  10. 10
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  11. 11
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  12. 12
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1969
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  13. 13
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1969
    Llyfr
  14. 14
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: II J 0
    Llyfr
  15. 15
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: II J 0
    Llyfr
  16. 16
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1975
    Rhif Galw: II J 0
    Llyfr
  17. 17
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1967
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  18. 18
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1967
    Llyfr
  19. 19
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr
  20. 20
    gan Rodari, Gianni
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: III J 0
    Llyfr