Manuel Rojas
Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd yn yr iaith Sbaeneg o Tsile a anwyd yn yr Ariannin oedd Manuel Rojas (8 Ionawr 1896 – 11 Mawrth 1973). Mae'n nodedig am ei ffuglen sy'n seiliedig ar brofiadau a chymeriadau'r isddosbarthiadau o'i ieuenctid.Ganwyd yn Buenos Aires, yr Ariannin, ac yn ei ieuenctid fe grwydrodd ar hyd y cyffindir rhwng yr Ariannin a Tsile tra'n llafurio am arian. Gweithiodd fel cysodwr leinoteip i bapurau newydd yn Santiago de Chile ac yn Llyfrgell Genedlaethol Tsile. Yn 1931, cafodd swydd yn bennaeth ar Wasg Prifysgol Tsile.
Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol fel bardd, gyda'r gyfrol ''Poeticus'' (1921). Trodd ei sylw yn fuan at y stori fer, a gwelir dylanwad yr awduron Americanaidd Ernest Hemingway a William Faulkner yn ei gasgliadau ''Hombres del sur'' (1926) ac ''El delincuente'' (1929). Ymhlith ei gasgliadau diweddarach o straeon mae ''El vaso de leche y sus mejores cuentos'' (1959) ac ''El hombre de la rosa'' (1963). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Lanchas en la bahía'', yn 1932, ac ystyrir y nofel hunangofiannol ''Hijo de ladrón'' (1951) yn gampwaith Rojas. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Mejor que el vino'' (1958), ''Punta de rieles'' (1960), a ''Sombras contra el muro'' (1964).
Bu farw yn Santiago yn 77 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12