Henryk Sienkiewicz
Nofelydd a newyddiadurwr o Wlad Pwyl oedd Henryk Adam Alexander Pius Sienkiewicz (5 Mai 1846 – 15 Tachwedd 1916) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1905. Mae'n nodedig am ei nofelau hanesyddol, yn enwedig ei glasur ''Quo Vadis'' (1896). Ysgrifennai dan y ffugenw Litwos.Ganed yn Wola Okrzejska, Gwlad Pwyl y Gyngres, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar ystâd fach. Wedi iddynt golli eu harian a'u tir, symudodd y teulu i Warsaw ac yno astudiodd Henryk lenyddiaeth, hanes, ac ieitheg ym Mhrifysgol Warsaw. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau ym 1869 ar bynciau gwyddonol ac yn clodfori Positifiaeth. Gadawodd y brifysgol ym 1871 heb iddo ennill ei radd.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Na marne'', ym 1872 a'i stori fer gyntaf, "Stary sługa", ym 1875. Teithiodd Sienkiewicz i Unol Daleithiau America ym 1876–78, ac ymwelodd â Pharis am gyfnod hir cyn iddo ddychwelyd i Wlad Pwyl. Cyhoeddodd gyfres o straeon byrion llwyddiannus, gan gynnwys "Janko muzykant" (1879), "Latarnik" (1882), a "Bartek zwycięzca" (1882). Sienkiewicz oedd cyd-olygydd y papur newydd dyddiol ''Słowo'' o 1882 i 1887. Nofelau enwocaf Sienkiewicz yw'r triawd am hanes Gwlad Pwyl yn y 17g—''Ogniem i mieczem'' (1884), ''Potop'' (1886), a ''Pan Wołodyjowski'' (1887–88)—a ''Quo Vadis'' (1896) a leolir yn Rhufain hynafol yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero.
Ym 1900, i nodi 30 mlynedd ers cychwyn ar ei yrfa lenyddol, gwobrwywyd iddo ystâd Oblęgorek, ger Kielce, ac yno fe drigai nes 1914. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd Sienkiewicz i'r Swistir, a chyda'r pianydd a chyfansoddwr Ignacy Jan Paderewski (a fyddai'n Brif Weinidog ei wlad wedi diwedd y rhyfel) ymgyrchai dros annibyniaeth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Vevey, Vaud, y Swistir, yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20