Harriet Beecher Stowe

bawd|250px|Harriet Beecher Stowe

Nofelydd o'r Unol Daleithiau ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd Harriet Elizabeth Beecher Stowe (14 Mehefin 18111 Gorffennaf 1896). Mae'n fwyaf enwog fel awdur y nofel ''Uncle Tom's Cabin'' (1852).

Ganed hi yn Litchfield Connecticut, yn ferch i Lyman Beecher a Roxana Foote Beecher. Dywedir fod y teulu o dras Gymreig. Roedd ei thad yn bregethwr, a daeth ei brawd, Henry Ward Beecher, i amlygrwydd fel pregethwr yn ddiweddarch. Yn 1836 priododd Calvin Ellis Stowe, yntau'n weinidog, a symudasant i Brunswick, Maine. Cawsant saith o blant, ond bu farw pedwar ohonynt o flaen Harriet.

Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn 1851, yn rhannol oherwydd ei hawydd i wneud rhywbeth i wrthwynebu caethwasiaeth, gyda chefnogaeth William Lloyd Garrison, golygydd ''The Liberator''. Ymddangosodd ei gwaith yn y papur ''The National Era'' dan y teitl ''Uncle Tom's Cabin or Life Among the Lowly''. Yn 1852 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr, a bu'n llwyddiant enfawr. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Stowe, Harriet Beecher', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Stowe, Harriet Beecher
    Cyhoeddwyd 1978
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr
  2. 2
    gan Stowe, Harriet Beecher
    Cyhoeddwyd 1978
    Llyfr