Giorgio Strehler

Cyfarwyddwr theatr ac opera ac actor o'r Eidal oedd Giorgio Strehler (14 Awst 192125 Rhagfyr 1997).

Ganwyd yn Barcola, Trieste, i dad Awstriaidd a mam o Eidales. Astudiodd y celfyddydau dramataidd yn yr Accademia dei Filodrammatici ym Milan a Conservatoire Genefa. Ymunodd â chwmnïau theatr ar daith, gan gynnwys y Gruppo Palcoscenico, i gael profiad o actio a chyfarwyddo. Roedd yn sosialydd ac yn aelod o'r gwrthsafiad yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn iddo symud i'r Swistir.

Cydsefydlodd y Piccolo Teatro ym Milan, a bu'n gyfarwyddwr artistig y theatr honno o 1947 i 1968 ac o 1972 i 1997. Bu hefyd yn sefydlydd a chyfarwyddwr y Gruppo Teatro e Azione o 1968 i 1972, ac yn gyfarwyddwr artistig y Théâtre de l’Europe ym Mharis o 1983 i 1990. Yn ogystal â'r 250 o ddramâu a gyfarwyddwyd ganddo, gan gynnwys gweithiau William Shakespeare, Bertolt Brecht, a Carlo Goldoni, cyfarwyddodd operâu yn La Scala, Milan.

Gwasanaethodd yn Senedd yr Eidal am un tymor, o 1987 i 1992. Bu farw yn ei gartref yn Lugano, y Swistir, o drawiad ar y galon, yn 76 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Strehler, Giorgio', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Strehler, Giorgio
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: K 501
    Llyfr
  2. 2
    gan Strehler, Giorgio
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: K 501
    Llyfr
  3. 3
    gan Strehler, Giorgio
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: K 501
    Llyfr
  4. 4
    gan Strehler, Giorgio
    Cyhoeddwyd 1977
    Rhif Galw: K 501
    Llyfr