Taliesin
bawd|200px|Copi o Lyfr Taliesin, Ffolio 13, 1868 :''Mae hon yn erthygl am y bardd hanesyddol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Taliesin (gwahaniaethu).''Roedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6g ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr ''Historia Brittonum'' gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn Tad Awen, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn ''Llyfr Taliesin'', llawysgrif o ddechrau'r 13g. Maent yn perthyn i'r Hengerdd. Yn ''Llyfr Taliesin'' a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw Taliesin Ben Beirdd, ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4Rhif Galw: R 20Llyfr