Leonardo da Vinci
Roedd Leonardo di ser Piero da Vinci (15 Ebrill 1452 – 2 Mai 1519) yn bolymath o'r Eidal a oedd yn weithgar fel peintiwr, drafftiwr, peiriannydd, gwyddonydd, damcaniaethwr, cerflunydd a phensaer. Tra bod ei enwogrwydd ar y cychwyn yn dibynnu ar ei waith fel peintiwr, daeth hefyd yn adnabyddus am ei lyfrau nodiadau, lle gwnaeth luniadau a nodiadau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys anatomeg, seryddiaeth, botaneg, cartograffeg, paentio, a phaleontoleg. Ystyrir yn eang bod Leonardo yn athrylith a oedd yn crynhoi holl ddelfrydau Dyneiddiaeth y Dadeni, a dylanwadodd yn fawr ar genedlaethau o artistiaid hyd at y y presennol.Mab llwyn a pherth i notari llwyddiannus a gwraig o ddosbarth is yn ardal Vinci oedd Leonardo, a chafodd ei addysg yn Fflorens gan yr arlunydd a'r cerflunydd Eidalaidd Andrea del Verrocchio. Dechreuodd ei yrfa yn y ddinas, ond yna treuliodd lawer o amser yng ngwasanaeth Ludovico Sforza ym Milan. Yn ddiweddarach bu'n gweithio am gyfnod byr yn Rhufain, tra'n denu nifer fawr o ddynwaredwyr a myfyrwyr ato. Ar wahoddiad Francis I, treuliodd ei dair blynedd olaf yn Ffrainc, ac yno y bu farw yn 1519. Ers ei farwolaeth, ni fu amser lle mae ei gyflawniadau, ei ddiddordebau amrywiol, ei fywyd personol, a'i feddwl empirig wedi methu ag ysgogi diddordeb ac edmygedd..
Mae Leonardo yn cael ei gyfri'n un o'r arlunwyr mwyaf yn hanes celf ac yn aml yn cael ei gydnabod fel sylfaenydd Anterth y Dadeni (''Hochrenaissance''). Er bod ganddo lawer o weithiau coll a llai na 25 o weithiau mawr y priodolir iddo — gan gynnwys nifer o weithiau anorffenedig — creodd rai o'r paentiadau mwyaf dylanwadol yng nghelf y Gorllewin. Ei magnum opus, y ''Mona Lisa'', yw ei waith mwyaf adnabyddus ac fe'i hystyrir yn aml fel paentiad enwocaf y byd. ''Y Swper Olaf'' yw'r paentiad crefyddol sydd wedi'i atgynhyrchu fwyaf erioed ac mae ei ddarlun ''Vitruvian Man'' hefyd yn cael ei ystyried yn eicon diwylliannol. Yn 2017, ''gwerthwyd Salvator Mundi'', a briodolwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol i Leonardo, mewn arwerthiant am US$450.3 miliwn, gan osod record newydd ar gyfer y paentiad drutaf a werthwyd erioed mewn arwerthiant cyhoeddus.
Caiff ei adnabod am ei ddyfeisgarwch technolegol, gan gynnwys peiriannau hedfan, cerbyd ymladd milwrol, pŵer solar crynodedig, peiriant cymharebu y gellid ei ddefnyddio i gyfrifo, a'i gynllun o long gyda gwaelod dwbwl. Cymharol ychydig o'i ddyluniadau a drowyd yn ddyfeisiadau real yn ystod ei oes, gan nad oedd meteleg a pheirianneg wedi'u datblygu digon yn ystod ei oes. Fodd bynnag, daeth rhai o'i ddyfeisiadau llai i fyd gweithgynhyrchu heb eu cyhoeddi, megis weindiwr bobin otomatig a pheiriant i brofi cryfder gwifren. Gwnaeth ddarganfyddiadau sylweddol mewn anatomeg, peirianneg sifil, hydrodynameg, daeareg, opteg, a thriboleg, ond ni chyhoeddodd ei ganfyddiadau ac ni chawsant fawr ddim dylanwad uniongyrchol ar wyddoniaeth y blynyddoedd dilynol.
Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd ''Bedydd Crist'' [http://www.abcgallery.com/L/leonardo/leonardo35.html]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12